Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Tachwedd 2024
Amser:
09.01 -
09.21
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
David Rees AS (Cadeirydd) Elin Jones AS, Llywydd Heledd Fychan AS Jane Hutt AS Darren Millar AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd, a chroesawodd yr Aelodau i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Cofio Tynnwyd yn Ôl
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Dadl: Cofio (60 munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024
· Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cynnydd ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - dylunio drwy gydweithio (45 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Diweddariad ar Fuddsoddiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (45 munud)
·
Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd
(Fêps Defnydd Sengl) (Cymru) 2024 (5 munud)
- gohiriwyd tan 10
Rhagfyr
· Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) 2024 (15 munud)
Gofynnodd Heledd Fychan am ddatganiad llafar ar yr 'Her 50 diwrnod newydd i wella cyfraddau rhyddhau cleifion o ysbytai a gwella gofal cymunedol' a gyhoeddwyd ar 11 Tachwedd. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried y cais.
Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 20 Tachwedd 2024 -
Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2024
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu:
20 Tachwedd 2024
Siân Gwenllian
NNDM8712
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ymgorffori’r Hawl i Dai Digonol, fel y nodir yn y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR), yng nghyfraith Cymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sefydlu’r Hawl i Dai Digonol fel hawl sylfaenol yng nghyfraith Cymru, gan sicrhau mynediad i dai saff, diogel a fforddiadwy i bawb;
b) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i wireddu'n raddol yr Hawl i Dai Digonol;
c) gofyn am asesiadau rheolaidd o anghenion ac amodau tai, gyda thargedau wedi'u gosod i leihau'r anghenion tai sydd heb eu diwallu a gwella amodau dros amser;
d) cryfhau amddiffyniadau tenantiaid a chefnogi arferion rhentu teg i sicrhau sefydlogrwydd tai; ac
e) sefydlu mecanweithiau i unigolion geisio iawn os yw eu hawl i dai digonol yn cael ei dorri neu heb ei fodloni.
8 Ionawr 2025
Carolyn Thomas
NNDM8723
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil cipio anifeiliaid anwes.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gwneud cipio anifail anwes yn drosedd benodol yng Nghymru;
b) cydnabod nad gwrthrychau difywyd yw cathod a chŵn ond bodau ymdeimladol sy'n gallu profi trallod a thrawma emosiynol arall;
c) cydnabod y trallod sylweddol ac unigryw a achosir i berchennog pan gaiff anifail anwes ei ddwyn; a
d) dod â deddfwriaeth Cymru yn gyfartal â deddfwriaeth yn Lloegr.
Deddfwriaeth
Trafododd y Pwyllgor Busnes ymateb gan y Pwyllgor Cyllid a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestru ac Ardoll) Etc. (Cymru).
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad terfynol o 10 Ionawr 2025 i gyflwyno adroddiad.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i Aelodau'r Pwyllgor ymadael ar unwaith yn dilyn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth 19 Tachwedd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i geisiadau gan y Pwyllgor iddo gwrdd y tu allan i'w slot cyfarfod rheolaidd ar foreau dydd Mawrth 3 Rhagfyr a dydd Llun 9 Rhagfyr.
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Dirprwy Lywydd y bydd ymgynghoriad y Pwyllgor Busnes ar rannu swydd gydag Aelodau a grwpiau yn cau ddydd Gwener 15 Tachwedd.
Cafodd y Rheolwyr Busnes eraill eu gwahodd gan y Trefnydd i ystyried cyd-gyflwyno'r cynnig ar gyfer y ddadl ar Holodomor a gynhelir yn amser y Llywodraeth ar 19 Tachwedd.